{ko: y gaink}
1 Dyscais ryw baradwysgainc
2 ar dwylaw mav ar dal mainc
3 ar dysciad dywygiad dyn
4 eurai dalm ar y delyn
5 a hon ywr gainc ar vainc vav
6 o blith oyd o blethiadav
7 i deilyngvawl edlingverch
8 a brydaisi a brwyd serch
9 [319] meddynt verched y gwledydd
10 am danafi, o'm dawn vydd
11 symlen yw'r gainc os amlwg
12 a symlyn yw'r dyn ai dwg
13 solfeais om salwfvaint
14 salm rwydd ys aelaw y mraint
15 ag orddigan gan y gainc
16 garuaidd medd gwyr ieuainc
17 coel vfuddbwnc celvyddber
18 cael ym glod neud cwlm y gler
21 gwae vi na chlyw mawr yw'r gainc
22 Dyddgu hynn o brydyddgainc
23 os byw hi ai clyw is Clwyd
24 ysbysle eos beislwyd
25 a ddysc hildr oddysc cildant
26 gormodd cerdd gwr meddw ai cant
27 llef eurloyw vygr llavarlais
28 lleddf ddatbing llwybr sawtring Sais
29 ni wnaeth pibydd fraeth o frainc
30 na phencerdd ryw safangrainc
31 poed anolo vo i vin
32 ai gywydd ai ddeg ewin
33 a gano cerdd ogoniant
34 ni cherydd Duw na cherdd dant
35 gwiw loywglaer ddyn golyglon
36 ac yn cael canu r gainc hon
Dauid ap Gwilim
Nodiadau
8+ Rhoir yr 8 llinell nesaf mewn blwch, sef cerdd 89.17-24,
ac ysgrifennir darn or cywyd nessa ond vn gan y
copïwr.